13443. Yn Y Dyfroedd Mawr A'r Tonnau

1 Yn y dyfroedd mawr a’r tonnau,
Nid oes neb a ddeil fy mhen
Ond fy annwyl Briod Iesu,
A fu farw ar y pren:
Cyfaill yw yn afon angau,
Ddeil fy mhen i uwch y don;
Golwg arno wna i mi ganu
Yn yr afon ddofon hon.

2 O! anfeidrol rym y cariad,
Anorchfygol ydyw’r gras;
Digyfnewid yw’r addewid,
A bery byth o hyn i maes;
Hon yw f’angor ar y cefnfor,
Na chyfnewid meddwl Duw;
Fe addawodd na chawn farw,
Yng nghlwyfau’r
Oen y cawn i fyw.

Text Information
First Line: Yn y dyfroedd mawr a’r tonnau
Title: Yn Y Dyfroedd Mawr A'r Tonnau
Author: Dafydd William, 1720-1794
Language: Welsh
Copyright: Public Domain
Tune Information
Name: [Yn y dyfroedd mawr a’r tonnau]
Composer: Thomas John Williams
Meter: 87.87 D
Key: f minor
Copyright: Public Domain



Media
Adobe Acrobat image: PDF
MIDI file: MIDI
Noteworthy Composer score: Noteworthy Composer Score
More media are available on the tune authority page.

Suggestions or corrections? Contact us