13441. Tawel Nos Dros Y Byd

1 Tawel nos dros y byd,
Sanctaidd nos gylch y crud;
Gwylion dirion yr oedd addfwyn ddau,
Faban Duw gyda’r llygaid bach cau,
Iesu T’wysog ein hedd.

2 Sanctaidd nos gyda’i ser;
Mantell fwyn, cariad per
Mintai’r bugail yn dod i fwynhau
Baban Duw gyda’r llygaid bach cau,
Iesu T’wysog ein hedd.

3 Tawel nos, Duw ei Hun
Ar y llawr gyda dyn;
Cerddi’r engyl, a’r Ne’n trugarhau;
Baban Duw gyda’r llygaid bach cau,
Iesu, T’wysog ein hedd.

Text Information
First Line: Tawel nos dros y byd,
Title: Tawel Nos Dros Y Byd
German Title: Stille nacht, heilige nacht
Author: Josef Mohr (circa 1816-1818)
Translator: Unknown
Language: Welsh
Tune Information
Name: [Tawel nos dros y byd]
Composer: Franz Gruber, 1787-1863
Key: B♭ Major
Copyright: Public Domain



Media
MIDI file: MIDI
More media are available on the tune authority page.

Suggestions or corrections? Contact us