13430. Gwahoddiad

1 Mi glywaf dyner lais,
Yn galw arnaf fi,
I ddod a golchi ’meiau gyd,
Yn afon Calfari.

Byrdwn:
Arglwydd, dyma fi
Ar dy alwad di,
Golch fi’n burlan yn y gwaed[9]
A gaed ar Galfari.

2 Yr Iesu sy’n fy ngwadd,
I dderbyn gyda’i saint,
Ffydd, gobaith, cariad pur a hedd,
A phob rhyw nefol fraint. [Byrdwn]

3 Yr Iesu sy’n cryfhau,
O’m mewn Ei waith trwy ras;
Mae’n rhoddi nerth i’m henaid gwan,
I faeddu ’mhechod cas. [Byrdwn]

4 Gogoniant byth am drefn,
Y cymod a’r glanhad;
Derbyniaf Iesu fel yr wyf,
A chanaf am y gwaed. [Byrdwn]

Text Information
First Line: Mi glywaf dyner lais
Title: Gwahoddiad
English Title: I hare thy welcome voice
Author: Lewis Hartsough (1872)
Translator: John Roberts (Ieuan Gwyllt), 1822-1877
Refrain First Line: Arglwydd, dyma fi
Language: Welsh
Copyright: Public Domain
Tune Information
Name: [Mi glywaf dyner lais]
Composer: Lewis Hartsough
Key: E♭ Major
Copyright: Public Domain



Media
Adobe Acrobat image: PDF
MIDI file: MIDI
Noteworthy Composer score: Noteworthy Composer Score
More media are available on the tune authority page.

Suggestions or corrections? Contact us