13414. Arglwydd Iesu, Arwai F'enaid

1 Arglwydd Iesu, arwain f’enaid
At y Graig sydd uwch na mi,
Craig safadwy mewn tymhestloedd,
Craig a ddeil yng ngrym y Ili;
Llechu wnaf yng Nghraig yr Oesoedd,
Deued dilyw, deued tân,
A phan chwalo’r greadigaeth,
Craig yr Oesoedd fydd fy nghân.

2 Pan fo creigiau’r byd yn rhwygo
Yn rhyferthwy’r farn a ddaw,
Stormydd creulon arna’ i’n curo,
Cedyrn fyrdd o’m cylch mewn braw;
Craig yr Oesoedd ddeil pryd hynny,
Yn y dyfroedd, yn y tân:
Draw ar gefnfor tragwyddoldeb
Craig yr Oesoedd fydd fy nghân.

Text Information
First Line: Arglwydd Iesu, arwain f’enaid
Title: Arglwydd Iesu, Arwai F'enaid
Author: S. J. Griffith, 1880-?
Meter: 87.87 D
Language: Welsh
Copyright: Public Domain
Tune Information
Name: IN MEMORIAM
Composer: Caradog Roberts, 1878-1935
Meter: 87.87 D
Key: e minor or modal
Copyright: Public Domain



Media
Adobe Acrobat image: PDF
MIDI file: MIDI
Noteworthy Composer score: Noteworthy Composer Score
More media are available on the tune authority page.

Suggestions or corrections? Contact us